2 Peter 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain a dd erbyniant gvflog anghyfiownder, mal y rrai sy yn cyfri yn lle eiddunet byw mewn gwnfyd tros amser. Brychay yntynt, a thrisclynay, yn ymddigrifo yn eu twyll iad ay, pan font yn cydwleddu gida chwi,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pleser y barnant loddest liw dydd; brychau a meflau, yn gloddesta yn eu cariad-wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan dderbyn cam fel cyflog anghyfiawnder. A hwy’n cyfrif miri liw dydd yn felyswedd, brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu hudoliaethau eu hunain pan gydwleddant â chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi ei wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe gnt ddrwg yn dl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta yn warth a gwaradwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fod ar dderbyn cyflog anghyfiawnder; gan gyfrif gloddesta liw dydd yn bleser; brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu Cariad‐wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi;