2 Peter 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A llygaid canthynt yn llawn godineb, nis gallont chwaith beidiaw a phechod, yn abwydaw eneidiau anwadal: a chenthynt galon gwedi ymgenefino a chybyddtra, plant yscymyn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llygaid ganddynt yn llawn godineb ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau ansefydlog; a chalon wedi ymgynnefino â chybydd-dra ganddynt; plant melldith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chanddynt lygaid yn llawn anlladrwydd ac anniwall yn eu pechod, yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ei harfer i drachwant, plant melltith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhyw ydy'r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw'n taflu abwyd i ddal y rhai sy'n hawdd i'w camarwain. Maen nhw'n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw'n cael eu melltithio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chnt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant rhai dan felltith ydynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chanddynt lygaid yn llawn godineb, ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal; a chanddynt galon wedi ymarfer mewn cybydd‐dod; plant melldith;