2 Peter 2:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain wedi ymadael ar ffordd iawn, aythont ar grwydyr, yn canlyn ffordd Balaam, map Bosor, rrwn a garawdd gobyr anghyfiownder:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan adael yr iawn ffordd aethant ar gyfeiliorn, yn canlyn ffordd Balaam, mab Bozor, yr hwn fu a chyflog anghyfiawnder yn hoff ganddo,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gadawsant ffordd uniawn ac aethant ar gyfeiliorn a glynu wrth ffordd Balam, fab Beor, a garodd gyflog anghyfiawnder,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan adael y ffordd uniawn aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam, mab Beor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;