2 Peter 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ef a geryddwyd am y gamwedd, can ys yr assen dan iauawl fud yn doyded a llef d d yn ol, a waharddodd enfydrwydd y proffwyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond argyhoeddiad a gafodd o’i gamwedd: ysgrubl aflafar â llef dyn a ddywedodd ac a rwystrodd orphwyll y prophwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond a gafodd gerydd am ei drosedd: llefarodd asen fud â llais dyn, ac ataliodd orffwylledd y proffwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â'r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn cafodd ei geryddu am hynny gan asyn! — anifail mud yn siarad gyda llais dynol ac yn achub y proffwyd rhag gwneud peth hollol wallgof!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud a lefarodd â llais dyn, ac a rwystrodd ynfydrwydd y prophwyd.