2 Peter 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hain ffynnonnay ydynt heb ddyfr, a’ niwlenne a ymchwa lar tymestyl, ir hain y may duedd tywollwgynghadw yn dragowydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr; niwloedd a thymhestl yn eu gyrru;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pydewau di-ddwfr yw’r rhain, a niwloedd a yrrir gan dymestl, y mae yng nghadw iddynt ddüwch y tywyllwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i'r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl yma fel ffynhonnau heb ddŵr ynddyn nhw! Cymylau sy'n cael eu chwythu i ffwrdd gan gorwynt! Mae'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffynhonnau heb ddu373?r ydynt, a niwloedd yn cael eu gyrru gan dymestl; y mae'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr, niwloedd a yrrir gan dymhestl, i'r rhai y mae caddug tywyllwch ynghadw.