2 Peter 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans o ddoydet chwyddedic eiriau gorwageð, trwy trachwātay, a thrythyllwch y cnawd, abwydo, a wnant yr rai a ddianghesay yn ’lan oðiwrth y rrai a ymdroysynt mewn crwydr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r rhai y mae duder tywyllwch mewn cadw; canys chwyddedig bethau gor-wagedd yn cael eu dywedyd ganddynt, llithiant yn chwantau’r cnawd, yn anlladrwydd, y rhai sydd rhyw faint yn diangc o’r rhai sydd â’u hymarweddiad mewn cyfeiliornad:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gan lefaru chwyddedig eiriau gwagedd llithiant trwy flysiau’r cnawd, trwy weithredoedd anllad, y rhai nad ydynt ond prin ddianc oddi wrth y sawl a rodia ar gyfeiliorn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio'r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae eu geiriau gwag nhw a'u brolio di-baid, a'r penrhyddid rhywiol fel abwyd yn denu pobl — a'r bobl hynny ddim ond newydd lwyddo i ddianc o'r math o fywyd mae'r paganiaid yn ei fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y maent yn llefaru geiriau ymffrostgar a gwag, ac yn defnyddio chwantau anllad y cnawd i ddenu i'w dinistr y rhai nad ydynt ond braidd wedi dianc o blith rhai yn byw'n gyfeiliornus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gan adrodd gor‐chwyddedig eiriau gwagedd, y maent yn hud‐ddenu, yn chwantau y cnawd, trwy eu gweithredoedd anllad, y rhai sydd i fesur yn diangc ymaith oddiwrth y rhai sydd a'u hymarweddiad mewn cyfeiliornad;