2 Peter 2:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan addaw yddynt rrydit, ac wynt y hunain yn wasanaethwyr llwgr edigrvvydd: can ys can bwy bynac i gorchfycer neb, ef aeth yn wr caeth i hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhyddid a addawant iddynt, a hwy eu hunain yn gaeth-weision i lygredigaeth; canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnw yr aeth hefyd yn gaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan addo rhyddid iddynt a hwy eu hunain yn gaethion llygredigaeth; canys pa beth bynnag y gorchfygwyd neb ganddo y mae ef yn gaeth i hwnnw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n addo rhyddid i bobl, ond maen nhw eu hunain yn gaeth i bethau sy'n arwain i ddinistr! — achos “mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn addo rhyddid iddynt, a hwythau'n gaeth i lygredigaeth; oherwydd y mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan addaw iddynt ryddid, tra y maent hwy eu hunain yn gaethweision llygredigaeth; canys gan bwy bynnag y trechir dyn, i hwnnw hefyd y mae wedi ei wneud yn gaeth; canys os,