2 Peter 2:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegit os wedi eu diainc o iwrth hal ogredigrwyð y byd, trwy ednabyðiaeth ein h Arglwydd an achubwr Iesu Christ, y ceffer hwynt eilwaith wedi ymrwystro ar vn pethau, a chwedi y gorchfygu, y diwedd ir rreini aeth yn waeth nor dechreu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os ar ol diangc o honynt rhag halogedigaethau’r byd trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd ac Achubwr, Iesu Grist; ac yn y pethau hyn yr ymblethant ac y’u gorchfygir, iddynt yr aeth eu cyflwr olaf yn waeth na’r cyntaf:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os wedi iddynt ddianc rhag halogedigaethau’r byd drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn gan y pethau hyn a’u gorchfygu, y mae eu diwedd yn waeth na’u dechreuad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pethau hyn, a'u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na'u dechreuad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy pobl wedi dianc o'r bywyd aflan sydd yn y byd trwy ddod i nabod ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, ac wedyn yn cael eu dal a'u rheoli gan yr un pethau eto, “maen nhw mewn gwaeth cyflwr yn y diwedd nag oedden nhw ar y dechrau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os yw rhai sydd wedi dianc rhag aflendid y byd trwy ddod i adnabod ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist, wedi eu dal a'u trechu eilwaith gan yr aflendid hwnnw, yna y mae eu diwedd yn waeth na'u dechrau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi diangc oddi wrth halogedigaethau y byd trwy lawn‐adnabyddiaeth o'r Arglwydd a'r Iachawdwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn yn y pethau hyn a chael eu trechu, y mae y sefyllfa olaf wedi myned iddynt yn waeth na'r cyntaf.