2 Peter 2:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwell fiase vddynt, na wybesynt fforð y cyfiownder, na chwedi y gwybod, cilio o iwrth y gorchymyn santeidd a rodded vddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddiwrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder nag wedi ei hadnabod, droi’n ôl oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i'r ffordd honno ac wedyn troi eu cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.