2 Peter 2:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr vddyntwy y digwyddodd, a ddowaid y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at y chwdiad eu hun: a’r, Hwch wedi y golchi yw ymdroyad yn y dom.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a digwyddodd iddynt fatter y wir ddiareb, “Ci wedi troi at ei chwydiad ei hun,” ac “Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglad yn y dom.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth i ben ynddynt y gair hwnnw o’r wir ddihareb, ci wedi dychwelyd at ei chwydiad ei hun, a hwch wedi ymolchi ohoni, at ymdreiglfa’r dom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a'r hwch wedi ei golchi, i'w hymdreiglfa yn y dom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci'n mynd yn ôl at ei chwŷd.” Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb: "Y mae ci yn troi'n l at ei gyfog ei hun", a hefyd: "Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddiareb: Ci yn troi at ei chwydiad ei hun, ac, Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglo yn y llaid.