2 Peter 2:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thrwy cybyddtra ac wrth airieu gwneuthyr y marsiandiant am danoch, barnedigaeth yr hain ir ystalm ni hwyrhaa, ay colledigaeth hwynt ni chwsc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac mewn cybydd-dod, â geiriau ffuantus y gwnant farsiandiaeth o honoch chwi; i’r rhai eu condemniad er ys talm nid yw segur, a’u dinystr nid yw’n hepian:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn eu trachwant gwnânt farsiandïaeth ohonoch chwi â geiriau ffuantus. Eu dedfryd hwy ers talm nid oeda, a’u dinistr nid yw’n hepian.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi ei hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn eu trachwant gwnnt elw ohonoch 'u storau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac mewn cybydd‐dod, trwy eu geiriau ffugiol y gwnant fasnach o honoch chwi: dedfryd y rhai er ys talm nid yw segur, a'u dinystr nid yw yn hepian.