2 Peter 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys onid arbedodd Dyw yr angylion, abechasent, eithr y taflu i wared i vffern ay dodi mewn cadwynay towyllwc, yw cadw i cyfyrgolledigaeth:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os angylion a bechasent nad arbedodd Duw, eithr i bydewau tywyll, gan eu rhoddi yn Tartarus, y traddodes hwynt, yn cael eu cadw i farn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys onid arbedodd Duw angylion a bechodd, eithr eu hyrddio i uffern a’u trosglwyddo i bydewau tywyllwch i’w diogelu i aros barn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os nad arbedodd Duw angelion a bechasant, eithr gan eu bwrw i Tartarus efe a'u traddododd i bydewau tywyllwch, i'w cadw i farn.