2 Peter 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nid arbedodd yr hen fyd, eithr Noe yr wythfed dyn pregethwr y cyfiownder, a waredodd ef, ac a dduc y diliw ar fyd yr enwiriaid,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr hen fyd nad arbedodd Efe; eithr gyda saith eraill, Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd Efe, pan ar fyd yr annuwiolion y dug Efe ddiluw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac onid arbedodd yr hen fyd, eithr diogelodd Noa, cyhoeddwr cyfiawnder, a saith eraill, a dwyn dilyw ar fyd o annuwiolion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os nad arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noah, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe gyda saith eraill, pan ddug efe Ddiluw ar fyd yr annuwiolion;