2 Peter 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a droes dinasodd Sodoma a Gomorrha yn llydw, ay dymchwelawdd ac ay cyfyrgolles hwynt, ac ay gwnaeth hwynt yn siampl ir rrai rrac llaw a vucheddynt yn anywiol,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dinasoedd Sodom a Gomorrah, wedi eu troi hwynt yn lludw, a gondemniodd Efe â dymchweliad, gan osod esiampl i’r rhai ar fedr byw yn annuwiol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, eu condemnio i ddinistr, gan eu gosod yn esiampl i rai oedd ar fedr ymroi i annuwioldeb,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorrah yn lludw, efe a'u condemniodd i ddistryw, gan eu gwneuthur yn esiampl i'r rhai a fyddent byw yn annuwiol;