2 Peter 2:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a achubodd Loth gyfion rrwn oedd mewn gofid trwy aniwair ymwreddiad yr enwiriaid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond Lot gyfiawn, yn cael ei ddirfawr boeni gan ymarweddiad y rhai digyfraith mewn anlladrwydd, a waredodd Efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwaredu Lot gyfiawn, a drallodid gan rodiad anllad yr anwir —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e yn ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o'i gwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaredodd Lot, gu373?r cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn a gafodd ei flino gan fuchedd y rhai drygionus, yr hon a dreulid mewn anlladrwydd