2 Peter 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Arglwydd a wyr achub y gwirioniaid o iwrth profedigaeth, a’ chadw yr ei anghyfiown i ddydd y farn yw poeni:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu duwiolion o demtasiwn, ac i gadw anghyfiawnion, yn cael eu ceryddu, i ddydd y farn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu’r duwiol allan o brofedigaeth, ac i gadw’r anghyfiawn dan gosb hyd ddydd barn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae'n cadw pobl ddrwg i'w cosbi pan ddaw dydd y farn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
— yr Arglwydd a ŵyr pa fodd i waredu y duwiolion allan o brofedigaeth, ac i gadw anghyfiawnion o dan gosp i Ddydd y Farn;