2 Peter 3:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YR ail epistol hon y ddwyf yn awr yn y escrivennu attoch, fyn grredigion, yn yr honn y ðwy yn dadebru trwy atcoffedigaeth ych meddwl puraidd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn yn awr, frodyr, yr ail epistol, yr wyf yn ei ysgrifenu attoch, yn y rhai cyffroi eich meddwl puraidd yr wyf trwy ddwyn ar gof i chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwn yw’r ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, anwyliaid, ac ynddynt yr wyf yn cyffroi trwy atgof eich meddwl didwyll,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, hwn ydy'r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio'ch annog chi i gadw'ch meddyliau yn lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, gyfeillion annwyl, dyma'r ail lythyr imi ei ysgrifennu atoch. Yn y ddau ohonynt, yr wyf yn ceisio deffro dealltwriaeth ddilychwin ynoch trwy eich atgoffa am y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn eisoes, anwyliaid, yw yr ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yn y rhai yr ydwyf yn cyffrôi eich meddwl didwyll trwy ddwyn ar gof i chwi,