2 Peter 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr dydd yr Arglwydd, megis lleidyr y nos y daw, yn yr hwn y ra heibio y nefoedd mewn trwst, a’r defnyddiau yn wir o wres a ddoddant, ar ddayar ac a fo ynthi o waith ie, a loscir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond daw dydd yr Arglwydd fel lleidr, yn yr hwn y nefoedd gyda thwrf a ant heibio, a’r elfennau a losgir ac a ddattodir, a’r ddaear a’r gweithioedd ynddi a lwyr-losgir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond daw dydd yr Arglwydd megis lleidr, yn yr hwn yr â’r nefoedd heibio gyda thwrw, ac y datodir yr elfennau gan wres, ac y datguddir y ddaear a’r gwaith y sydd ynddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant, a'r ddaear a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i'r golwg i gael ei farnu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio bod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Dydd yr Arglwydd a ddaw megys lleidr, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf rhuthrol, a'r elfennau gan wres deifiol a ymddatodant, a'r ddaear a'r gweithiau sydd ynddi a losgir i fyny.