2 Peter 3:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chan vot yn rraid y hynn y gyd ymellwng, pa ryw fath ddynion y deleychi fod mewn santaið ymwreddiad a dywoliaeth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn i gyd i’w cael eu dattod fel hyn, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r holl bethau hyn yn ymddatod felly, pa fath rai a ddylech chwi fod mewn sanctaidd rodiad a duwioldeb,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae'n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy'n rhoi Duw yn y canol,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan fod y pethau hyn i gyd fel hyn i gael eu datod, pa ryw fath ddynion ddylech chwi fod ym mhob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,