2 Peter 3:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny, fyn grredigion, can ych bod yn gwiliad am gyfryw bethay, rrowch ych bryd ar allu o hono ef ych cael yn ddifrych eulyd ac yn ðilwgyr mewn tengnhevedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, anwylyd, a’r pethau hyn yn eu disgwyl genych, byddwch ddyfal ar eich cael yn ddifrycheulyd ac yn ddianaf yn Ei olwg Ef mewn tangnefedd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, anwyliaid, a chwi yn disgwyl y pethau hyn, byddwch ddyfal i’ch cael ganddo ef mewn tangnefedd yn ddifrychau ac yn ddifai,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi'n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy'n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gyfeillion annwyl, gwnewch eich gorau, wrth ddisgwyl am y pethau hyn, i fod yn ddi-nam a di-fai yng ngolwg Duw, ac i'ch cael mewn tangnefedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, anwyliaid, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, byddwch eiddgar ar eich cael mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn ddifeius ganddo ef.