2 Peter 3:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hir ymynedd eyn h Arglwydd rrac cymerwch may iechid yw, megis yr yscryfennodd eyn caredic frawd Paul attoch vvi herwydd y doythineb a rodded iddo,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac hir-ymaros ein Harglwydd cyfrifwch yn iachawdwriaeth, fel y bu hefyd i’n brawd anwyl, Paul,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chyfrifwch yn iachawdwriaeth hirymaros ein Harglwydd ni, megis hefyd yn ôl y ddoethineb a roed iddo y sgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, ac ef yn llefaru am y pethau hyn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna'n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein brawd annwyl, Paul, atoch yn l y ddoethineb a roddwyd iddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chyfrifwch hir‐amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys hefyd ag yr ysgrifennodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a roddid iddo ef;