2 Peter 3:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis y neb sy yn son ym hob epistol am y cyfryw hynn: y mysc y rrain may rryw bethay anhawdd y dyall, rrain a wyrant y rrai sy anyscedic ac anwadal, mal yr yscythyray eraill, ir distriw yddynt y hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn ol y doethineb a roddwyd iddo, ysgrifenu attoch; fel hefyd yn ei holl epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai y mae rhai pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae’r annysgedigion a’r ansefydlogion yn eu gwyrdroi, fel yr ysgrythyrau eraill hefyd, i’w dinystr eu hunain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yn ei holl epistolau hefyd, yn y rhai y mae rhai pethau anodd eu deall, pethau y mae’r di-ddysg a’r anwadal yn eu gŵyrdroi i’w dinistr eu hunain, megis hefyd yr ysgrythurau eraill.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae'r annysgedig a'r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i'w dinistr eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy'n anodd eu deall. A dyna'r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy'n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda'r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw'n mynd i ddinistr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly hefyd yn ei holl lythyrau y mae'n sn am y pethau hyn. Y mae rhai pethau ynddynt sydd yn anodd eu deall, pethau y mae'r annysgedig a'r ansicr yn eu gwyrdroi, fel y maent yn gwyrdroi'r Ysgrythurau eraill hefyd, i'w dinistr eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel hefyd yn ei holl Epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn; yn y rhai y mae pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr anwybodus a'r anwadal yn eu gŵyr‐droi, fel yr Ysgrythyrau eraill hefyd, i'w dinystr eu hunain.