2 Peter 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwichwi am hynny vyn grredigion, can ych bod yn gwybod y pethay hynn ymlaen llaw, gochelwch, rrac ych tynnu chwithay hefyd ar grwydyr yr enwiriaid, a chwympo o ddiwrth ych sicrwydd ych hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi, gan hyny, anwylyd, gan ragwybod hyn, gwyliwch rhag, gan gael eich dwyn ymaith gyda chyfeiliornad yr annuwiolion, gwympo o honoch oddiwrth eich sefydlogrwydd eich hunain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwychwi, gan hynny, anwyliaid, yn rhagwybod, gwyliwch rhag eich ysgubo i ffwrdd gan gyfeiliornad yr anwir, a syrthio ymaith oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i'ch ffydd gadarn chi simsanu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o'ch safle cadarn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi gan hynny, anwyliaid, yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, gwyliwch rhag wedi eich arwain gan gyfeiliornad y rhai drygionus, gwympo o honoch oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain;