2 Peter 3:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr cynyddwch mewn gras, ac ednabyddieth eyn Arglwyð ni an ceidwad Iesu Christ: ir hwn y bo gogoniant yr awr honn, ac yn dragwyddol byth. Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond cynnyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd ac Achubwr Iesu Grist. Iddo Ef y bo’r gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond cynyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hachubwr ni Iesu Grist. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr a hyd byth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist a dod i'w nabod e'n well. Mae e'n haeddu cael ei foli! — yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o'n Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Iddo ef y bo'r gogoniant yn awr ac am byth! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond cynhyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo y Gogoniant yn awr ac i Ddydd Tragwyddoldeb.