2 Peter 3:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y bo cofus cenych y geiriau, a racddoydasont y prophwydi santaidd, an gorchymyn ninau rrain ydym abostolion yr Arglwydd an Achubwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i gofio’r geiriau a rag-ddywedwyd gan y sanctaidd brophwydi, a gorchymyn yr Arglwydd ac Achubwr trwy eich apostolion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cofioch y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn apostolion eich Arglwydd a’ch Achubwr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a'n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a'r Iachawdwr:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a'n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am ichwi gofio'r pethau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Gwaredwr, a roddwyd trwy eich apostolion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
sef i gofio y geiriau a rag‐ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Iachawdwr trwy eich Apostolion: