2 Peter 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ddoydant, Ple may addewid y ddefodiad ef? canys ir pen fu farw y taday, pob peth sy yn perhau yr vn ffunyt o ddechreuad y creaduriaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid Ei ddyfodiad, canys er’s y bu i’r tadau huno, pob peth sy’n parhau fel hyn o ddechreuad y creadigaeth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd: “Pa le y mae’r addewid am ei ddyfodiad ef? Canys er pan hunodd y tadau, y mae popeth yn aros fel yr oedd er dechrau’r cread.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid — mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau'r byd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn holi'n goeglyd: "Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei Ddyfodiad? canys er pan hunodd y Tadau, y mae pob peth yn parhâu fel yr oeddynt o ddechreuad creadigaeth.