2 Peter 3:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid ydiw yr Arglwydd yn e hwyr h au, am eu addewid, (megis y tybia rrai ehwyrdra) eithr ymyneddus yw tu ac attom ni, ac nis mynay neb fod yn golledic, namyn dyvot o bawb i edifeirwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oedi Ei addewid y mae’r Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir-ymarhöus yw tuag attoch, heb ewyllysio i neb rhyw rai fyned ar goll, eithr i bawb ddyfod i edifeirwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid araf yw’r Arglwydd ynglŷn â’i addewid, fel y cyfrif rhai arafwch, eithr hirymarhous yw tuag atoch chwi, heb ewyllysio dinistr neb, ond cyrchu o bawb at edifeirwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi ei addo, fel mae rhai yn meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid oedi ei Addewid y mae yr Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oediad, eithr hir‐ymarhöus yw efe tuag atoch chwi, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.