2 Samuel 1:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly mi a sefais arno ef, ac a'i lleddais ef; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a'r freichled oedd am ei fraich ef, ac a'u dygais hwynt yma at fy arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi ei anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum hwy yma at f'arglwydd."