2 Samuel 1:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa! Dim mwy o gnydau'n tyfu yno! Dyna lle cafodd tariannau'r arwyr eu baeddu; mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"O fynyddoedd Gilboa, na foed gwlith na glaw arnoch, chwi feysydd marwolaeth. Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn, tarian Saul heb ei hiro ag olew.