2 Samuel 1:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ferched Israel, wylwch am Saul. Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi a thlysau aur i'w haddurno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"O ferched Israel, wylwch am Saul, a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad, ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.