2 Samuel 1:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd. Roeddet ti mor annwyl i mi. Roedd dy gariad di ata i mor sbesial, roedd yn well na chariad merched.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan; buost yn annwyl iawn gennyf; yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol, y tu hwnt i gariad gwragedd.