2 Samuel 1:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o'r rhyfel, a llawer hefyd o'r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a cafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi eu lladd hefyd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrtho, "Dywed wrthyf sut y bu pethau." Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.