2 Samuel 10:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i'th gynorthwyo dithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i ddod i'ch helpu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd, "Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.