2 Samuel 10:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn stopio rhyfela yn erbyn yr Ammoniaid, a mynd yn ôl i Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai, a mynd i'r ddinas. Gadawodd Joab ei gyrch yn erbyn yr Ammoniaid, a dychwelodd i Jerwsalem.