2 Samuel 10:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tu hwnt i'r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o'u blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain.