2 Samuel 10:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a'u gwasanaethasant hwynt. A'r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y brenhinoedd oedd ar ochr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch gydag Israel, a dod o dan ei hawdurdod. Felly, roedd gan y Syriaid ofn helpu'r Ammoniaid eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.