2 Samuel 10:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio'r ddinas, a'i throedio, a'i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma swyddogion y wlad yn dweud wrth eu meistr, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg ei fod wedi anfon ei weision i ysbïo ac archwilio'r ddinas, er mwyn ei choncro hi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysbo a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?"