2 Samuel 10:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a'r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma nhw'n llogi dau ddeg mil o filwyr traed gan y Syriaid yn Beth-rechob a Soba, mil o filwyr gan frenin Maacha, a deuddeg mil o Tob.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd yr Ammoniaid a chyflogi ugain mil o wu375?r traed oddi wrth y Syriaid yn Beth-rehob a Soba, a hefyd mil o wu375?r oddi wrth frenin Maacha a deuddeng mil o wu375?r Tob.