2 Samuel 11:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a'i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.