2 Samuel 11:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i'w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o'th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i'th dŷ dy hun?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?"