2 Samuel 11:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o'r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.