2 Samuel 11:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, "Dywed fel hyn wrth Joab, 'Paid gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi'. Calonoga ef fel hyn."