2 Samuel 12:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i'th erbyn ddrwg o'th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a'u rhoddaf hwynt i'th gymydog, ac efe a orwedd gyda'th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn.