2 Samuel 12:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl saith diwrnod dyma'r plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd e'n cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd e'n gwneud rhywbeth ofnadwy iddo'i hun.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y seithfed dydd bu farw'r plentyn, ond yr oedd gweision Dafydd yn ofni dweud wrtho ei fod wedi marw. "Gwelwch," meddent, "tra oedd y plentyn yn fyw, nid oedd yn gwrando arnom, er inni siarad ag ef; sut y dywedwn wrtho fod y plentyn wedi marw? Gallai wneud rhyw niwed iddo'i hun."