2 Samuel 12:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy'r plentyn wedi marw?” A dyma nhw'n ateb “Ydy, mae wedi marw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymhlith ei gilydd, deallodd fod y plentyn wedi marw; felly dywedodd Dafydd wrth ei weision, "A yw'r plentyn wedi marw?" "Ydyw," meddent hwythau.