2 Samuel 12:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i'w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Ac aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd Dafydd oddi ar lawr, ac ymolchi a'i eneinio'i hun a newid ei ddillad; ac aeth i du375? Dduw i addoli. Wedyn aeth i'w du375? a gofyn am fwyd; ac wedi iddynt ei osod iddo, fe fwytaodd.