2 Samuel 12:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi ei choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, casgla weddill y fyddin a gwersylla yn erbyn y ddinas a'i hennill, rhag i mi gipio'r ddinas ac iddi gael ei galw ar f'enw i."