2 Samuel 12:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a'i phwys hi oedd dalent o aur, gyda'r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o'r ddinas anrhaith fawr iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail,