2 Samuel 12:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o'i ddefaid ei hun, ac o'i wartheg ei hun, i arlwyo i'r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a'i paratôdd i'r gŵr a ddaethai ato.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato."