2 Samuel 12:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDD, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â'r cleddyf, a'i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a'i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad 'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef chleddyf yr Ammoniaid.